Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXIV. DECHREU ODFA.

WRTH weled Tomos Williams yn mynd i seiat, neu gyfarfod i weddio, neu unrhyw foddion arall o ras, byddai rhai dynion, a rhai lled ddoeth yn ol eu cyfrif eu hunain, yn hoff iawn o geisio aflonyddu meddwl, ac o gynhesu tymer yr hen Gristion dyddorol. Nid yn anfynych y profai Tomos ei hun yn. fwy na choncwerwr ar y dosbarth hwnnw. Un noson, pan yr hwyliai i'r capel, ac heb fod ar y telerau goreu a'r "riwmatis,' oedd yn gwarchae ers misoedd ar ei goesau, daeth dyn na pherthynai i'r un enwad ag ef, i'w gyfarfod. Amlwg oedd ar olwg ymffrostgar a dedwydd y gŵr hwn ei fod yn arfer ag ysgwyd llaw yn bur fynych ag ef ei hun. Cyfarchwyd Tomos yn sydyn ganddo gyda'r cwestiwn,—

Tomos Williams, ydach chi'n credu mewn etholedigaeth?

"Ydw, debyg," oedd yr ateb.

"Wel," ychwanegai'r holwr, "sut y gwyddoch chi eich bod chi wedi'ch ethol?"

Sut y gwyddost ti nad ydw i ddim?" ebai Tomos yn eithaf cwta, gan adael ei boenydiwr dwylath ar ganol y stryd i gyfri'r ser a ffraeo'r lleuad.

Yr oedd mewn Cyfarfod Ysgol unwaith, a'r holwr oedd y diweddar Barch. John Jones, Pandy, Penmachno, yr hwn oedd wedi ei ddonio yn arbennig at gadw Cyfarfod Ysgol yn fywiog ac