Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

reuodd bregethu tua'r un adeg a'r diweddar Barchn. David Davies, Henllan; a Hugh Jones, Llangollen, hwythau yn frodorion o'r un dref. Bu Mr. John Roberts yn golygu'r "Faner" gyda Mr. Gee am lawer o flynyddau. Er yn meddu ar gryn lawer o wybodaeth, pregethwr bychan, amhoblogaidd ydoedd. Byddai ei fater yn dda bob amser, ond yr oedd ei ddawn yn undonog a sych; ac wrth draddodi meddai ar ddull anffodus o sefyll ar ei led ochr yn y pulpud, a gwaeth na hynny, bron o'r eiliad y cymerai ei destyn fe gauai ei lygaid hyd ddiwedd y bregeth. Diau fod rhesymau dros hynny.

Nid oedd Tomos Williams ar y telerau goreu gyda Mr. John Roberts. Gŵr manwl iawn ei chwaeth a'i arferion ydoedd y diweddaf. Meddai ar ddeddf a rheol at bopeth, bydded fawr neu fychan. Nid oedd troion trwstan, digrifwch, nac hyd yn oed gwreiddiolder Tomos Williams yn derbyn yr un adsain o'i galon ef. Pan y gelwid Tomos i gymeryd rhan mewn cyfarfod crefyddol, mae'n ddiameu mai am y geiriau hynny y meddyliai Mr. John Roberts, "Gelwch am Samson i beri i ni chwerthin." Rhaid wrth y tipyn sylwadau yna er mwyn i'r anghynefin ddeall yr hyn sydd yn dilyn.

Wedi odfa y bore Sul y cyfeiriwyd ato, cyhoeddwyd Mr. John Roberts i bregethu yn y prydnawn yn y Ffynhonnau, capel yn y wlad yng nghyfeiriad Llannefydd, oddeutu pum milldir o Abergele, ac anturiodd y cyhoeddwr ychwanegu y byddai Tomos Williams, o Lanrwst, yno yn dechreu'r odfa. Erbyn dau o'r gloch, yr oedd capel y Ffynhonnau yn llawn i'w eithaf. Aeth y son y byddai Tomos Williams