Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yno drwy yr holl ardaloedd yn ddioed. Methai y pregethwr a chredu fod y bobl mor ddichwaeth fel ag i redeg ar ol y "gwerthwr cerddi," ac eto adwaenai ei hun yn ddigon da i wybod mai nid ar ei ol ef yr oeddynt yn dod. Modd bynnag, gwahoddwyd Tomos i ddechreu. Ufuddhaodd yntau ar unwaith, ac mewn cywair uchel a gorfoleddus rhoddodd y pennill hwn allan,-

"Os ydwyf fel Mannasse,
Yn berffaith ddu fy lliw;
Mi ddof yn wyn ryw ddiwrnod
Drwy rinwedd gwaed fy Nuw.
Mae'r Iesu yn anfeidrol,
Fe gladda feiau f'oes;
Efe yw'r Hwn achubodd
Y lleidr ar y Groes."

Edyrchai y pregethwr a'r blaenoriaid yn lled syn a chwithig. Efallai eu bod yn ameu uniongrededd y pennill am nad oedd yn y Llyfr Emynnau. Gan nad beth am hynny, cafwyd cystal hwyl ar ei ganu a phe mai Awstin neu Calfin a fuasai wedi ei gyfansoddi. Darllennodd Tomos yn y chweched bennod o Efengyl Ioan—hanes porthi y pum mil. Gyda'r frawddeg,—"A thyrfa fawr a'i canlynodd ef," methodd anghofio y gŵr oedd yn y pulpud, a dywedodd,—

"Dwn i ddim a oedd Pedr-un go hafing oedd o, ac un wedi rhoi ei droed yni hi fwy nag unwaith—'dwn i ddim, meddaf, ai nid oedd Pedr yn meddwl mai ar ei ol o yr oedd y dyrfa fawr yma wedi dwad, fel y mae John yn meddwl