Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mai ar ei ol o yr ydych chwi wedi dwad i'r Ffynhonna yma heddyw." Daeth awydd talu rhyw "hen chwech" hefyd i'r golwg yn ei weddi. Pan ar uchelfannau ei hwyl, llefai,—Fedar John "Anfon yr Ysbryd Glân yma. neud dim byd ohoni hi 'i hun, hyd yn oed pe dasa fo yn agor ei lygid. Anfon yr Ysbryd Glân Gad i ni gael dau bregethwr yn yma, wir. odfa'r pnawn yma. Os na ddaru Dafydd Ro- berts gyhoeddi dim ond un, mi fydda'n dda gan ein clonna ni weld Pregethwr mawr Sasiwn y Pentecost yn dwad i fewn ato ni. Mi fedar o ddwad heb fod isio trwblo neb am na cheffyl na charr i'w gario fo, a chawsa'r un o'r hen flaenoriaid yma ddim siawns i edliw pryd o fwyd iddo fo. O anfon yr Ysbryd Glân yma. Os na fydd yma neb ond John ei hun mi fydd yn sych ofnadwy arno ni er ein bod ni yn y Ffynhonna."

Cafodd Tomos dipyn o gerydd gan rai o brif weinidogion y Cyfarfod Misol am rai o'r brawddegau uchod, ac addefai yntau wrthynt ei fod "wedi myned dipyn dros y marc y tro yna," a rhoddodd y bai ar Beelzebub, y "Commander-in-Chief, down below," chwedl yntau.