Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXV. YN Y SEIAT.

MEWN un seiat yn ei gartref yr oedd y gweithrediadau wedi myned yn lled farwaidd, pryd y gofynnodd un o'r blaenoriaid i Domos a fuasai efe yn dweyd gair; ac heb nemawr gymhelliad pellach, cododd ar ei draed, ac heb ymofyn help nac esgusawd gan y peswch hwnnw sydd ymron yn uniongred erbyn hyn, dechreuodd. Tipyn yn ddi-bwynt ydoedd am beth amser, ond yn araf deg daeth y geiriau hynny i'w gof,—"Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddiarni," ac ar unwaith dyma'r weledigaeth heibio iddo, a'i wyneb yntau yn ymddisgleirio wrth edrych arni.

"Mynnwch gael y rhan dda," meddai, "ac mi fyddwch yn saff wedyn. Mi fedar y tlota sy yma ei chael hi. Dydi hi ddim ar werth; 'ar osod y mae hi. Mae Iesu Grist wedi codi ei groes ar yr entrans i'r stât yma, ac wedi sgrifenu arni hi mewn llythrena digon bras i negros Affrica fedru gweld nhw,—To be let for nothing. Mae yn bosib mynd a thai, a thiroedd, ac anifeiliaid oddiarnom ni, ond fedar neb fynd a'r rhan dda oddiarno ni. Dyna i chi stât! Unwaith y dowch chi i feddiant o hon, dyna chi yn freeholders am dragwyddoldeb wedyn. Mi 'ryda ni'n agored i golli tad, a mam, a phlant, a phob math o berthnasa a ffrindia, ond ni cholla neb mo'r rhan dda. Mae'n rhaid i'r Hollalluog ei hun droi ei gôt, bobol, cyn y collwn ni hon! Mynnwch afael yn y rhan yma.