Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y nefoedd bron iawn a chredu fod y diafol yn ennill y dydd. Ond pan oedd Cyfiawnder—yr officer in charge—ar fin rhoi ordors i Gabriel i dynu'r blinds i lawr, dyna swn adenydd Trugaredd yn styrbio yr awyr, ac yn y fan dyma Gyfiawnder allan fel mellten; ac mi wela Drugaredd yn dwad hefo fflag wen yn ei law. Beth am y fatl?' gofynnai Cyfiawnder. Gorffennwyd meddai Trugaredd, nes yr oedd yr holl nefoedd yn siglo. A dyna hi'n ganu wedyn! Mi roedd hen fandiau ardderchog y Cystudd Mawr yn taro Iddo Ef, yr hwn a'n carodd,' a Teilwng yw'r Oen,' bob yn ail; a dyna i chi gonsyrt! Mi ddigwyddis i, unwaith ne ddwy, fedru mynd i gonsyrts mawr yn Naples, Vienna, a Paris, a rhywbryd tua'r canol mi fydda yna rywbeth oedda nhw'n alw yn interval—enw crand ar gyfleustra i'r cantwrs gael gwynt ac i'r llymeitiwrs gael diod. Ond be ddyliech chi o orchestra y Cystudd Mawr? Mae honno'n cael ei gneyd i fyny o bob cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion, a phalmwydd yn eu dwylo. Yn y consyrt crand yna dydi'r pyrfformars ddim wedi aros yr un eiliad i gymryd i gwynt ers tua dwy fil o flynyddoedd! Dydw i ddim yn deyd hynyna ar y fentar, cofiwch, ond mae gen i Sgrythyr wrth y'nghefn i brofi mhwnc, a dyma fo,—Maent gerbron gorsedd fainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml.'"