Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tion ar gyfer ffashiwn lot. Waeth i ti ar y ddaear p'run; yma doeso nhw, heb agor drws na ffenast na dim byd. Dwn i ddim faint oedd 'na. Gwmpas mil, wyrach; ond mi ddarun ffeindio lle i gyd. Fuo nhw ddim eiliad nad oedd pob rheno yn ei lle. "Strike up," ebai Gabriel. A dyna hi'n ganu! "Teilwng yw'r Oen," wrth gwrs, oedd y pisin. Mae nhw'n hen stejiars hefo'r gân honno. A gwasanaethu mewn, cân y mae'r oll o ngwmpas i fan yma ddydd a nos. Ran hynny, pan fydda i'n teimlo bron ffeintio, weithia, mi ddaw ambell angel ffeind o'r trŵp i ffanio nhalcen poeth i hefo'i aden. nes y bydda i'n clywad "Awel o Galfaria fryn" yn ei dymheru. Ar adeg felly, mi fydda inna yn i joinio nhw yn y gân.

'Roeddwn i'n cael sgwrs hefo clamp o seraff nobl bore ddoe, ac mi ddeudodd fod gen i lais da. Wyrach, meddwn inna, ond mae o wedi erygu llawer iawn drwy gael anwyd yn rhew ac eira byd pechod am gwmpas hanner can mlynedd; ond mi ddechreuodd glirio o'r diwrnod cynta y trois i ngwyneb at Eglwys Dduw— Gwlad yr Ha. "O," ebai'r seraff, "bydd i ogla per y ffrwytha sy'n tyfu ar Bren y Bywyd wneyd y llais yn berffaith glir am dragwyddoldeb."

J. J.—'Does arno chi ddim ofn marw, Tomos?

T. W. Wel, nac oes ddim ofn marw, John, ond mi fydd arna i, ambell waith, ofn mynd i'r nefoedd. Mi fyddwn i, droion, pan i ffwr ar y Continent, yn amser y rhyfel mawr. yn cael f'anfon ar neges i'r plasa y bydda'r Dukes a'r Lords oedd yn perthyn i'r armi yn aros ynddyn