Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nhw. Ac mi fydda gen i ofn na wyddwn i ddim sut i ymddwyn yn iawn hefo pobol mor steilish, ac mewn llefydd mor grand. Ond mi ddown drwyddi hi'n eitha ddigon amal. Cawn rhyw fwtlar, weithia, yn ddigon ffeind i roi gair o gyngor neu wers i mi ar sut i byhafio. Felly, oni bai am yr angylion yma, sydd yn fechgyn hardd yn y Royal Service ers deng miliwn o oesoedd, mi fasa gen i yn sicir gryn ofn mynd i'r nefoedd. Ond mae nhw wedi deud lot o hanes y lle wrtha i, ac wedi dysgu manners y byd tragwyddol i mi dro ar ol tro; fel yr ydw i'n meddwl y mentra i yno wedi cael bodyguard mor saff i edrach ar f'ol i. Mae'r hen fyd hwn, yr yda ni wedi byw mor hir ynddo fo, yn fendigedig o glws, wyddost. Dydi hynny ryfedd yn y byd. Darn o ffyrnitshiar heb i orffen yn siop weithio'r Saer o Nazareth ydi o. "Y ddaear yw lleithig ei draed Ef." Ac os ydi ei stôl droed 0 mor grand, beth am ei Orsedd O, tybed? Yr Orsedd wen, fawr! Darllen di lyfr y Datguddiad, ac mi gei weld Ioan yn deyd am y trimmins ardderchog sy arni hi.

J. J.—Wel, mae'n dda iawn gen i, Tomos, eich gweld chi mor gysurus.

T. W.—Fum i 'rioed yn fwy dedwydd John. Lle ffeind ryfeddol sydd ar y walks yma gerllaw y dyfroedd tawel. 'Does dim byd mwy hapus mewn bod na chael mynd am walk hefo angylion. Wir, mae yma gymin ohonyn nhw fel nad wn i ar y ddaear sut i stwffio drwy canol nhw er mwyn landio'r ochor draw. Mae nhw'n canu, canu, o hyd, o hyd, hefo geiria a thelyna. Dydw i'n clywed dim o swn yr afon gan swn miwsig yr angylion.