Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tybiai rhai pobl grefyddol (tybed?) nad oedd yn werth cymeryd sylw o Domos—dyn oedd wedi treulio hanner can mlynedd i ymgydnabyddu a ffosydd duaf uffern—ni chredent fod yn bosibl i'r cablwr ofnadwy hwn ddiwygio dim. Ond credai eraill—ac, efallai, Tomos ei hun—yn wahanol. Un diwrnod, pan gyda'i gerddi a'i almanaciau ym mhentref tawel Llangernyw, pwy ddaeth i gyfarfod ag ef ond y pregethwr a'r bardd enwog Caledfryn. Adwaenent eu gilydd ers blynyddau. Wedi deall ei fod yn ddirwestwr, anogodd Caledfryn ef i barhau yn gadarn felly, i ymroi i ddarllen y Beibl ac i fynychu moddion gras. Dywedodd Tomos nad oedd ganddo yr un Beibl, ac nad oedd yn medru darllen, ond fod ganddo awydd cryf am gael gwrando yr efengyl. Rhoddodd Caledfryn bum swllt iddo tuagat gael "Beibl bras;" ac, meddai y bardd a'r dyngarwr wrtho, "Os wyt ti yn addo o ddifrif mynd i'r capel, ac os oes arnat eisieu siwt o ddillad, neu het, neu esgidiau, neu'r cwbl hefo'u gilydd, dos di at John Jones, y Printar, a dywed wrtho am eu ceisio i ti, ac anfon y cyfri i mi, ac mi dalaf innau am danyn' nhw. Wyddost ti ddim na fedrwn ni gael yr hen Gapelulo i mewn i'r nefoedd eto. Mae yno rai llawn cyn waethed a thi wedi mynd." Fel y gellir casglu yn hawdd, calonogwyd Tomos yn fawr iawn gan eiriau tyner ac ymddygiad rhadlon Caledfryn—gŵr y mynnai rhai ddweyd am dano ei fod yn berchen enaid llym a gaua faidd. Trodd yn ol i Lanrwst ar ei union, heb gymaint a chynnyg diddanu trigolion Llangernyw gyda cherdd na'u goleuo gydag almanac. Aeth at ei noddwr,