Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

John Jones, yn ddiymdroi, a mynegodd iddo ei y neges oddiwrth Caledfryn. Pwrcaswyd "Beibl bras" ar unwaith, er nad oedd Tomos yn medru darllen yr un gair ohono. Bu raid i John Jones roddi câs o bapyr llwyd cryf am dano, a thorri ei enw mewn llythrennau cywrain ynddo. Rhoddai y Beibl o dan ei obenydd bob nos, a daliai efe ei fod yn gallu cysgu yn esmwythach byth ar ol dechreu gwneyd hynny.