Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ysgol Sul am rai blynyddau, ac hefyd, wedi tacluso llawer ar ei amgylchiadau a'i berson, cyflwynodd ei hun yn ymgeisydd am aelodaeth eglwysig gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Synnodd llawer oedd yn y seiat y noson honno' fod Tomos Williams wedi anturio aros ar ol Modd bynnag, cafodd groesaw siriol gan y frawdoliaeth, a rhoddodd un neu ddau o'r blaenoriaid oedd yn hollol gydnabyddus ag ef—dynion yn medru myned yn agos at ddyn heb ei archolli—gynghorion wedi eu pwrpasu yn arbennig at garictor rhyfedd fel efe. Bu yn aelod ar brawf am bedwar mis, ac ar derfyn hynny o amser derbyniwyd ef yn aelod cyflawn i feddu holl freintiau yr eglwys.

Yn yr amser hwn arferai barhau i fyned o gwmpas y wlad gyda llyfrau, ac yr oedd drwy ei ddiwydrwydd a'i gynhildeb wedi casglu ychydig bunnoedd wrth ei gefn. Cyfarfyddodd ag amgylchiad a roddodd ei ddirwestiaeth a'i ras o dan brawf llym a ffyrnig. Digwyddai fod gyda'i lyfrau ym Mangor, lle y daeth i gydnabyddiaeth â gwraig weddw o sir Fon o'r enw Beti Morus, yr hon oedd, meddai hi wrtho, yn weddol daclus. Priododd gyda hi, a dechreuasant fyw ym Mangor. Arferai Tomos ddweyd fod y ddynes hon wedi ymaelodi gyda'r Wesleyaid er mwyn ei gael ef yn wr. Wedi byw gyda'u gilydd am ryw bum mis, rhaid a' fu i Domos fyned ar daith i Lanrwst, Pan ddychwelodd i Fangor yr oedd Beti Morus wedi dianc at deulu oedd ganddi yng Nghaernarfon, a chludo gyda hi holl ddodrefn y ty. a thros ddeg punt o arian yr hen Domos. Bu mewn helynt flin a phrofedigaeth fawr oherwydd hyn. Gan na wyddai ar y pryd i ba le yr oedd wedi