Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

myned dechreuodd grwydro drwy rannau o Fon ac Arfon i chwilio am dani. Ond cynghorwyd ef gan yr hen efengylwr, y Parch. Thomas Owen, Llangefni, a chan Arglwydd Newborough, i ymddwyn yn ddoeth, ac i adael llonydd i Beti os na ddeuai yn ol yn fuan. Ym mhen cryn amser daeth o hyd iddi, ond tafodi eu gilydd yng nghylch pwy oedd i fod yn feistr a fu canlyniad y cyfarfyddiad hwnnw. Diwedd y ddrama a fu i Domos benderfynu gadael llonydd i Beti; ac felly fu. Ni chyfarfyddodd y ddau mwyach.

Ar ol yr helynt yna dychwelodd Tomos i Lanrwst, ac ni adawodd ei hen gynefin ond i fyned ar ei deithiau ar ol hynny. Preswyliai wrtho ei hun mewn ty bychan, y tu cefn i siop y diweddar Mr. Griffith Owen, yn Stryd Ddinbych. Preswylio wrtho ei hun a ddywedais; ond nid yn hollol felly. Tomos, wrth gwrs, oedd y tenant, ond arferai letya dwy gath, y rhai a alwai efe yn Handy a Judy. Gan fod Tomos wedi arfer cymaint gyda disgyblaeth a seremoni, naturiol oedd i'r duedd at hynny barhau ynddo i gryn raddau hyd ei hen ddyddiau. Trindod ddoniol ryfeddol gyda'u gilydd oedd Capelulo, Handy, a Judy. Pwysig iawn yn ei olwg oedd cael gan y cathod i wneyd pob peth yn weddaidd ac mewn trefn. Pwrcasodd ddwy stol drithroed, un ar gyfer Handy a'r llall ar gyfer Judy, a threuliodd gryn lawer o amser i ddysgu y creaduriaid hyn i beidio trawsfeddiannu stol y naill a'r llall. O dan y silff uwchben tân cadwai wialen fedw fygythiol ei golwg a chwerw ei blas. Byddai galw am wasanaeth hon pan dorrai un o'r cathod rai o ddeddfau Llys Tomos. Os byddai plât wedi cael ei dorri,