Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neu bennog wedi myned i lawr yr heol a elwir Ebargofiant, y broblem fawr fyddai penderfynu pa un o'r cathod oedd yn euog o'r trosedd. Estynnai Tomos y wialen fedw, eisteddai, gan fenthyca trem awdurdodol, yn ei gadair fraich, a gosodai y pechaduriaid ar eu stolion ger ei fron. Rhoddai y Beibl brâs ar y ford, ac agorai ef ar yr ugeinfed bennod o Exodus, yna an- erchai y cathod yn debyg i hyn:—

"Wel, y 'nghathod bach i, rhaid i mi gadw cwrt marshial arno chi unwaith eto. Mae yma bennog wedi ei ddwyn tra 'roeddwn i wedi mynd allan, ac mae'r Llyfr mawr sydd o mlaen i yn deyd 'Na ladrata'. Tydw i ddim yn meddwl fod y Deg Gorchymyn i gyd i gael ei gymhwyso at gathod wyt ti'n gwrando, Handy—tro ditha dy wep ffor' yma Judy—ie, meddaf, at gathod, achos dyna 'Na ladd' yn un ohonyn nhw, ac mi ryda chi o'ch dwy yn rêl mwrdrws ers talwm; ond ffêr plê, mwrdrws llygod yda chi, ac mae gen i hawl i harbro mwrdrwrs felly. Ond y mae Na ladrata' i fod ar gyfer cathod yn gystal a phobol. Yrwan, Judy, mae rhyw olwg fwy bethma arna ti nag sy ar Handy. Verdict of court, Guilty, Judy; Handy, acquitted. Sentence on Judy, twelve strokes with the rod."

Wedi yr anerchiad cath-olig yna, byddai adgofion am orchestion Judy mewn llawer Waterloo lygotol yn llifo i fynwes Tomos, a'r diwedd fyddai iddo ollwng y garchares yn rhydd, a dychwel y wialen heb ddryllio ei brig i'w safle gyntefig ar yr hoel dan y silff.

Arferai Tomos "gadw dyledswydd" yn rheolaidd yn ei dŷ. Darllennai y Beibl yn uchel, "dros bob man," fel y dywedir, a