Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gweddiai yr un modd, mewn hwyl anarferol. Ac nid peth anghyffredin o gwbl a fyddai gweled tyrfa o blant, ac, weithiau, personau hynach, wedi ymgynnull oddiallan i wrando arno. Arferai wneyd rhyw fath o asides wrth ddarllen y Beibl. Nid esbonio a wnai, ond taflu rhyw sylw difyfyr allan yn awr ac yn y man. Rhan a ddarllennai yn fynych o'r Gyfrol Sanctaidd oedd Dameg y Mab Afradlon. Byddai "comments" Tomos Williams yn debyg i hyn "Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd. "(Dyna un go dda am shario). Efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon." ('Run fath a finna). Yntau a ddechreuodd fod mewn eisieu.' (Wel! wel!). "Ac efe a'i hanfonodd i borthi moch." (Eitha job iddo fo. Mi wn i lot am foch). "Efe a gododd, ac a aeth at ei dad." (Dyna fel 'ryda ni i gyd; mi fentrwn adra pan fydd pob drws arall wedi cael ei gau rhagom ni). A phan oedd efe eto yn mhell oddiwrtho, ei dad a'i canfu ef." (Dyna i chi, mi fedar cariad weld yn andros o bell heb na spectol na speing glas, na dim byd). "Dygwch allan y wisg oreu, a gwisgwch am dano ef." (Well done, yr hen father: mi gurswn i gefn o cawswn i afael arno fo). "A dygwch allan y llo pasgedig." (Welwch chi, vêl yn lle ciba, 'rwan). "Cynghanedd a dawnsio." (Diaist i, 'rydw i yn ameu'r dawnsio yma hefyd. Beth fasa'r Cwarfod Misol yn i ddeyd 'sgwn i?). "Ond efe a ddigiodd, ac nid âi i mewn." (Y lleban jelws!).

Dyna i'r darllennydd ddim ond un engraifft ar hyn o bryd o ddull yr hen bererin o sylwi ar