Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VII. "DYDD IAU."

ARFERAI Tomos, pan yn myned allan o'r ty, adael y drws heb ei gloi, ac yn ddigon mynych heb ei gau; a chymerodd llawer tro dyddorol le mewn canlyniad i hynny. Un diwrnod, wedi iddo ddychwelyd o'i grwydriadau cafodd fod un o'r cathod wedi dod ag iau llo i'r ty, a'i osod heb arno na tholc na bwlch ar y ford drithroed. Beth oedd rheswm dros onestrwydd ac ympryd y gath, ni wyddis. Hwyrach ei bod yn flaenorol wedi gwneyd cyfiawnder a'r danteithion (fel y bydd gohebydd y te parti yn arfer dweyd) oedd mewn lladd-dy cyfagos, ac nas gallai ei chrombil dderbyn ychwaneg o'r llo. Bu Tomos yn petruso cryn dipyn pa beth i'w wneyd gyda'r iau; a chan ei fod yn hoff ryfeddol o'r adran hon o fab y fuwch (yn wir, byddai yn "ddydd Iau" arno yn fynych iawn), bu yn dyfeisio pob math o resymau dros roddi derbyniad i yspail y gath, ond gorfodid ef i droi y rhan fwyaf ohono heibio. Yn ei gyfyngder, ac, o ran hynny, yn ei awydd am yr iau, cofiodd am hanes Elias,— "Pan oedd o yn yr anialwch," meddai Tomos yn uchel wrtho ei hun, "mi 'roedd yna angel yn dwad a bwyd iddo fo. 'Sgwn i o ble'r oedd y gŵr bynheddig hwnnw yn cael y cacena i Elias? Fasa 'run o'i sort o byth yn ei dwyn. nhw. A ffid iawn gafodd y proffwyd hefyd, achos ar ol rhyw ddwy sbrêd, mi fedrodd gerdded ddeugan niwrnod a deugian nos.