Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fyth o'r fan 'ma, mi faswn i yn byw yn bur rad pe cawswn i angel i gwcio i mi. Ond wrth gwrs, mi ai yn ddrwg gynddeiriog ar y siopwrs yma. Mi fasan yn fancryps i gid cyn pen y flwyddyn. Mi wela i rwan sut yr oedd petha. 'Does dim perig fod yr angel wedi dwyn torth yrioed; ond mi fasa fo-un o Farcwisys mawr y byd a ddaw-yn medru mynd i'r siop ora yn Beerseba a phrynnu y dorth fwya oedd yno. Diaist i, dwn i ddim o ble basa fo'n cael pres chwaith; ond waeth befo, mi fasa dyn crand fel fo, yn uniform life guards yr Hollalluog, yn cael y peth fynsa fo ar dryst mewn unrhyw siop yn y dre, ac mi fasa'i Feistar yn gofalu am dalu'r bil, a rhoi log gwell wrth wneyd hynny na'r un banc yn y byd."

Methodd Thomas gymhwyso stori'r angel at ei amgylchiadau ei hun. Rhoddodd drem awchus drachefn ar yr iau, a daeth amryw wleddoedd a fwynhaodd yn y gorffennol i gynorthwyo ei ddychymyg i ddesgrifio y blas a roddasai wynwyn a thafell o gig moch ar yr iau oedd ar y bwrdd yn creu y fath chwyldroadau cynhyrfus tua godrau ei stumog. Pan ar fin meddwl fod yn rhaid iddo ildio y danteithfwyd i fyny, ac felly siomi "y dyn oddimewn" oedd yn dyheu am dano, gwaeddodd allan,—

"Hold on! dyma fi wedi dwad o hyd iddi hi. Mi fu Elias mewn scrêp arall heblaw honna. Pan oedd o ar lan afon Cerith, mi 'roedd yna frain yn dygyd (dyna fel mae'r Beibl yn deyd) bara a chig iddo ddwy waith bob dydd. 'Rwan, y cwestiwn ydi, o ble 'roedd y brain yma yn cael y bara a'r cig. Fedrai rheini ddim i prynnu nhw yn unlle, pres ne beidio. Ond tydw i ddim