Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am i chiarjio nhw o ddwyn, er fod y Gair yn deyd yn blaen, a 'ddygent iddo fara.'"

Gwelir ar unwaith mai cwrs ymresymiad diniwed Tomos ydoedd, os oedd yn iawn i Elias gymeryd cig gan frain yr oedd yn iawn iddo yntau gymeryd cig gan gathod. Go lew, yr hen batriarch. Cafodd le i ddianc am y tro. Y funud y tawelodd ei gydwybod, yr oedd yr iau, y bacwn, a'r wynwyn, yn cadw terfysg difyrwel, efallai, yn gorfoleddu-ar y badell ffrio, a'r Epicuread dyddorol gan Domos yn porthi y gwasanaeth o gyfeiriad ei stumog.

Clywodd cyfaill neu ddau am stori'r iau llo, ac am y frwydr a gymerodd le rhwng yr hen frawd a'i gydwybod yng nghylch derbyn y cyfryw. Wedi deall i'r gydwybod gael y gwaethaf, aethant, mewn tipyn o ddireidi, i'w dy, a digwyddasant fyned pan oedd y trugareddau yn barod i'w mwynhau. "Wel," ebai un o honynt, gan wneyd golwg lem a difrifol arno'i hun, "yr yda ni wedi clywad, Tomos Williams, fod chi yn derbyn eiddo lladrad," ac yna adroddodd yr hanes gyda chryn lawer o seremoni. Amddiffynodd Tomos ei hun a'r gath gyda chigfrain Cerith, cyn ddonioled a thwrne. Ond chwalodd y ddau gyfaill yr amddiffyniad cywrain yn llwyr gyda geiriau mawr "na fuo nhw 'rioed mewn sbelin bwc," chwedl Tomos. Pan yn gweled ei hunan ar lawr, a'r iau yn oeri ar y bwrdd, "Rhoswch chi," meddai, "mi awn ni at y Deg Gorchymyn, ynta." Ac ar eiliad yr oedd yr ugeinfed bennod o Ecsodus yn agored o'u blaen. Dyma'r bennod oedd i setlo popeth gan Tomos. Dechreuodd, a chofier mai darllenwr lled ddiofal ac amherffaith oedd. Pan ddaeth at y geiriau, "Na chwennych dŷ