Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na'i wasanaethwr, na'i wasanaeth ferch, na'i ŷch"

"Howld, rwan, Tomos," meddai un o'r ddau gyfaill, "ŷch, yntê, a dydi llo yn ddim ond o'r un dosbarth a'r ych, a dyma chwithau wedi derbyn iau y creadur hwnnw gan y gath.”

"O, nid fel yna chwaith, hogia," ebai yr hen wr, "peidio chwenychu'r ych, a hynny pan fydd o'n fyw, mae'r Gair yn ei feddwl. Dyna fo'n deud, Na chwenych wraig dy gymydog,' gwraig fyw, wrth reswm, mae o'n feddwl, a'r un fath hefo'r ŷch. Peth arall, iau y llo, ac nid y llo ei hun a gefais i, a thydi'r Ddeddf yn deyd dim yn erbyn cymyd sgram bach o'r cre- adur hwnnw." Erbyn hyn, tybiai Tomos ei hun yn fwy na choncwerwr, a'i fod wedi llwyr ddistewi ei ddau boenydiwr direidus.

"Dyda ni," ebai un o honynt, "ddim o'r un farn a chi, Tomos; pe dase chi'n gorffen yr adnod, mi welsech fod yna ymadrodd eang iawn, Na dim sydd eiddo dy gymydog.'"

"Wel," meddai Tomos, gan edrych yn ddigon trist, dawn i fyth o'r fan yma, dyna i mi gast. Mae y gair yna yn cymyd i fewn iau llo a phob peth arall. Ddylis i 'rioed fod y Deg Gorchymyn mor gysact a hynna." Ac ar amrantiad, yr oedd yr iau a achosodd iddo y fath boen, ac a loywodd gymaint ar ei obeith- ion, yn cael ei chwyrnellu allan drwy y drws.

Gonest iawn, yr hen Domos, a thro gwael ar ei ymwelwyr cellweirus, meddai rhywun. Wel ie, efallai; ond arhoswch funud. Wedi i'r iau llo gael ei daflu i fod yn achos rhyfel rhwng ewn a chathod y gymdogaeth, ac i'r ddau gyf- aill sicrhau dyspeidiau o chwerthin am wyth-