Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VIII. BALCHDER A PHWDIN.

FEL llawer o hen grefyddwyr Cymreig yn barchus yr wyf yn arfer yr ymadrodd—yr oedd Tomos yn dra gwrthwynebol i'r hyn a elwir "bod yn y ffasiwn," a byddai rhai o'i edmygwyr direidus yn ei helpu i fileinio mwy wrth y ffasiwn nag a weddai i'r amgylchiadau ar y pryd. Ymosodai yn ddoniol a deheuig dros ben ar falchder gwisg, ymddygiad, ac ymadrodd yn y ddau ryw. Arferai ef ei hun ymwisgo yn hollol syml, ond bob amser yn lân a thrwsiadus. Ni chredai mewn gormod o ofal gyda'i wallt. Gadawai iddo fargodi fel y mynnai i lawr ei dalcen, hyd at ei lygaid. Nid oedd y crib a'r brws dda i ddim ond i'w gynorthwyo i fod yn ostyngedig yn y cyfeiriad hwnnw.

Ym mhlith ei gydnabod lluosog, yr oedd dau ddyn ieuanc, o barch a deall a charedigrwydd, sef y diweddar Mr. Owen Evans-Jones a Mr. Evan Jones (yr oedd ef yn fyw yn ddiweddar ym Mhorthmadog), meibion y Printing Office, Llanrwst. Cymerai y ddau gryn lawer o ddyddordeb yn Nhomos Williams, ac arferent ymweled yn fynych âg ef, ac ni buont hwy a'u tad galluog a charedig yn fyrr o ddangos llawer o ofal am yr hen wr. Wedi iddynt ddod yn dipyn o lanciau, arferent, yn ol y ffasiwn, wneyd y peth a elwid yn "rhes wen," neu, fel y cyfieithid yr ymadrodd yn y dyddiau hynny, 'Q. P.," ar eu gwallt. Un diwrnod, digwyddasant ymweled a Thomas Williams gyda golwg