Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lled ffasiynol arnynt, ac ar unwaith dechreuodd yr hen frawd ymosod gyda nerth a deheurwydd arbennig ar y gwahanol ffurfiau o falchder a rhodres, ac nid y lleiaf ym mhlith y cyfryw oedd y "Q. P.," a'r "pin brest." Agorodd ei Feibl yn ddioed a throdd i'r llythyr cyntaf at Timotheus, ac mewn hwyl, yn cael ei chynhyrchu gan oruchafiaeth dybiedig, darllennodd y geiriau,-" Nid â gwallt plethedig, neu aur, neu emau, neu ddillad gwerthfawr, &c." ofer y dadleuai y bechgyn mai cynghori gwragedd yr oedd Paul yn y geiriau yna; daliai Tomos yn ddawnus eu bod i'w cymhwyso at y ddau ryw. Parhaodd yr ymrafael yn hir; ond dyfeisiodd bechgyn y "Printing" ffordd dra dyddorol i ddod allan yn fuddugoliaethus. Un diwrnod, pan oedd Thomas Williams allan, a'r drws, fel arfer, heb ei gloi na'i gliciadu, aeth un o'r ddau wr ieuanc i mewn i'w dŷ. Cymerasant y Beibl bras allan oddiyno. Aed ag ef i'r swyddfa argraffu, ac yno, ar bapyr nodedig o deneu, cysodwyd ar ol y nawfed adnod yn yr ail bennod o'r llythyr cyntaf at Timotheus, y geiriau, "Ond Q. P.' sydd weddus i fab." Gosodwyd y tipyn papyr i mewn yn drefnus ym Meibl Tomos, a gadawyd ef ar y bwrdd yn ei dŷ heb iddo ef wybod ei fod wedi ei gymeryd oddiyno o gwbl. Pan ddaeth y mater ymlaen i'w ddadleu drachefn, cyfeiriodd y gwyr ieuainc at y Beibl, ac yn arbennig at yr adnod yn y llythyr cyntaf at Timotheus. Rhoddodd Tomos ei spectol yn dra seremoniol ar ei lygaid -nid oedd yn gallu gweled yn rhy dda hyd yn oed gyda chynorthwy felly. Yna, er ei syndod. darllennodd y geiriau, Ond Q. P.' sydd weddus i fab." Synnodd yn ddirfawr ar ol eu