Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gweled, ac yna dywedodd, "Wel, diaist i, os ydi Paul yn deyd y ddwy ffordd, 'does gin i ddim cymin o feddwl o hono fo." Ac o'r awr honno allan cafodd bechgyn doniol a deallus y "Printing" heddwch i drefnu eu gwallt a'u gwisgoedd fel y mynnent. Yr oedd Tomos Williams yn cymeradwyo pob siwt a ffasiwn a fabwysiedid ganddynt.

Gan ei fod yn gymeriad mor adnabyddus yn y dref, ac ymhell y tu allan i hynny, yr oedd yn naturiol yn tynnu sylw y plant ymhob man, a byddent hwy yn ei ddilyn yn barhaus, ac, weithiau, yn aflonyddu arno. Ar ddydd Sadwrn, yn rheolaidd, byddai Tomos yn darparu pwdin reis at y Sul. Efe ei hun fyddai yn cario y ddysgl i'r pobty, a gwyddai y plant ei adeg i hynny yn eithaf da. Gan ei fod, yn yr adeg y cyfeirir ati yn awr, mewn gwth o oedran, yr oedd ei ddwylaw a'i freichiau yn crynnu wrth gludo y ddysgl. Y funud y gwelid Tomos yn cychwyn gyda'r pwdin ar hyd Stryd Dinbych, rhedai nifer o blant ar ei ol, a rhoddent ryw enwau anymunol ar yr hen wr, yr hyn a'i cynhyrfai yn enbyd, ac a'i digiai yn fawr. Gan fod y ddysgl yn ei law nis gallai redeg ar eu holau. Gwyddai y plant hynny, a byddent yn ymhyfhau, ac yn aflonyddu fwyfwy arno. Crychai yntau ei dalcen, gwgai ei aeliau, a churai ei draed yn y llawr, nes y byddai y pwdin yn ymgolli yn llif dros y ddysgl ac ar hyd dillad Tomos. Po fwyaf a gynhyrfid arno ef, mwyaf oll o'r pwdin a gollid; a dyma oedd y mwynhad a geisid yn bennaf gan y plant. Weithiau, pan wedi ei wylltio yn fawr iawn, llithrai gair go amheus—braidd yn ddu ei liw—dros ei wefusau, a pharai hynny gryn boen