Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddo pan wedi dofi. Gan wybod fod Tomos yn edifarhau oherwydd arfer "gair hyll," byddai y plant yn rhedeg ar ei ol ac yn edliw y cyf- ryw iddo, gan ychwanegu y byddai iddynt ddweyd wrth Mr. Jones, Bodunig, blaenor o fedr a dylanwad yn y Capel Mawr. Yr oedd gan Domos gryn ofn i Mr. Jones glywed am ei gampau ieithyddol, ac yn hytrach na hynny, galwai ar unrhyw fachgen a ddanodai iddo ei waith yn llithro ar air, a dywedai wrtho,- Wel di, paid ti a mynd i achwyn at Mr. Jones, a mi gei dithau damaid o bwdin ar ol dwad o'r capel bore foru." Wrth gwrs, yr oedd y plant yn dweyd yn bwrpasol yr achwynent wrth y blaenor hybarch, heb fod eu meddyliau yn cyrraedd hyd yn oed ronyn ymhellach na dysgl bwdin Tomos Williams. Canol dydd y Sul a ddeuai, a byddai tri neu bedwar o fechgyn selog a pharod i gyflafan bwdinyddol yn nhy Capelulo. Rhoddai yr hen wr lonnaid soser i bob un o honynt, a byddai y cyfan yn myned o'r golwg yn hapus mewn gwên a chellwair. Wedi gwaghau y soser, byddai y bechgyn yn dweyd fod Tomos wedi arfer mwy nag un gair hyll," a byddai yr hen greadur yn ddigon diniwed i roddi llonaid soser arall o bwdin reis i bob un o honynt fel math o iawn dros bob "gair mawr yr honnid y byddai efe wedi ei arfer. Y rhan fynychaf o lawer, ni byddai yn y ddysgl gymaint a thamaid wedi ei adael i Domos, druan. Gofalai y plant direidus am dynnu digon arno, drwy edliw iddo ei bechodau, nes ei gwaghau. Rhyfedd y cysylltiad cyfleus a ganfyddai Tomos Williams rhwng pechod a phwdin reis.