Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IX. GWERTHU ALMANACIAU A CHERDDI.

GAN mai rhyw dipyn o lyfrwerthwr teithiol oedd Tomos am ei flynyddau olaf, byddai, yn naturiol, yn crwydro cryn dipyn oddicartref; er mai anfynych, yn y blynyddau hynny, yr ai ym mhellach ar un llaw na Phenmachno neu Ddolyddelen, a Chonwy ar y llaw arall. Cymerai ei amser yn dra hamddenol i fyned o'r naill fan i'r llall. Yr oedd fel pe am gymhwyso yr ymadrodd "Ni frysia yr hwn a gredo," hyd yn oed at ei draed. Nid oedd yn cadw siop fawr, gan ei fod yn medru ei chario gydag ef i bob man. Gallai roddi y siop, weithiau, mewn ysgrepan, a phryd arall mewn poced anferth, a allasai fod yn ddisgynyddes barchus o ryw hen sach gynddiluwaidd. Hawdd iawn ydoedd agor a chau siop fel hyn ar riniog ty, neu fin y ffordd, pan y mynnid. Yr un fath a siopau "chwech a dimai" y dyddiau hyn, yr un bris oedd ar bopeth yn siop Tomos Williams. Y pris hwnnw ydoedd ceiniog. Fel yr awgrymwyd eisoes, yr hyn a werthid ganddo oedd cerddi ac almanaciau. Wrth gwrs, yr oedd cerdd, oni bai iddi fod wedi ei chyfansoddi ar bwnc y dydd, yn llenyddiaeth "up to date" unrhyw adeg, tra nad oedd almanac felly. O leiaf, dyna'r farn gyffredin yn ei gylch. Ond ni fynnai Tomos hynny. I bwrpas masnachol, yn ol ei dyb ef, yr oedd