Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

almanac blwyddyn fyddai wedi dod i ben yn gwneyd y tro yn eithaf gogyfer a'r flwyddyn fyddai yn dod i fewn. Wrth werthu almanaciau nid oedd Tomos yn rhy ofalus am edrych rhai am ba flwyddyn oeddynt; y prynnwr oedd i fod a'i lygad yn agored ar ryw fater cysetlyd o'r fath. Mewn ambell ffair, cymerai digwyddiad tebyg i hyn le. Byddai Tomos wedi gwerthu almanac i ddyn neillduol; ac ym mhen yr awr, efallai, deuai y dyn hwnnw ag ef yn ol gan ddweyd,—

Tomos Williams, wyddoch chi fod yr almanac ddaru chi werthu i mi yn hen?"

"Yn hen, wir," ddywedai Tomos, "bybê wyt ti 'n alw'n hen? Faint ydi oed o?"

"Mae hwn yn chwech oed," fyddai yr ateb. "Ac mi 'rwyt ti'n galw hynny'n hen! Faint ydi dy oed di?"

"Mi fydda'n ddeugian Wyl Andras nesa." Wyt ti'n hen am fod chdi'n ddeugian?" Gwarchod ni! nac ydw i."

"Dos adre, ynta, a phaid a dwad ata i i neud ffwl ohonat dy hun, ac i glebar fod yr almanac yn hen."

Gwelir ar unwaith mai nid "fel y mae rhai yn cyfrif oed" almanaciau yr oedd y marsiandwr athronyddol o Lanrwst yn gwneyd hynny. Mewn amgylchiadau dyddorol o'r fath ciliai y prynnwr ymaith yn ddistaw dan wenu a lled edmygu y cymysgedd o ddiniweidrwydd a chyfrwystra oedd yn yr hen wr, a gadael iddo fwynhau Buddugoliaeth yr Amseroni.'

Byddai Tomos yn llawn mor ddyddorol fel masnachwr cerddi. Cariai lawer math ohonynt. Tra nas gellir ei gyhuddo o fod yn gwerthu