Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhai anfoesol—ac yr oedd cyflawnder o'r cyfryw i'w cael yn ei amser ef—gwerthai rai gwirion, a rhai digon seilion o ran papyr a mater. Cymerai arno, o leiaf, fod yn lled ofalus, ac o geisio ymateb cydwybod dda wrth drafaelio gyda cherddi. Ar ben y sypyn a gariai byddai nifer lled dda o'r hyn a ellir eu galw yn gerddi duwiol "-math o farwnadau oer a sych, y buasai dyn yn ewyllysio cael marw yn ei fabandod yn hytrach na chael byw i fod yn wrthrych y fath glindarddach o rigymau gauafaidd a chrin.

Yn awr, golyger fod Tomos yn myned at dyddyn golygus yn y wlad a'i swp cerddi yn ei law. I'w gyfarfod, i'r drws, dyna wraig oedrannus, a pharchus, ond trist yr olwg arni, yn dod. Dealla efe yr amgylchiadau ar unwaith. Mae y wraig, yn ddiweddar iawn, wedi claddu ei gŵr. Wedi cyfarch gwell iddi, a chydymdeimlo â hi, tynn allan nifer o "gerddi o gysur â theulu y fan a'r fan, ar farwolaeth hwn a hwn." Rhydd air o ganmoliaeth effeithiol i'r "farddoniaeth odidog uchel" ac i'r bardd aruchel fu yn euog o gablu urddas llên a chrefydd drwy rygnu y fath ysbwrial iseldras. Nid oes eisieu gwastraffu ychwaneg o "sebon" ar y rhigwm na'i grewr; dyna werth swllt yn cael eu prynnu yn y fan, a phryd iawn o datws, cig hallt, a phwdin pys i'r "merchant" caredig a theimladwy. Cylyma Tomos y bwndel i fyny, ac wedi diolch i wraig y ty, cychwynna ymaith, a gofala am fyned drwy y buarth yn y cefn. Nid yw wedi myned nemawr lathenni ffordd honno cyn clywed rhywun yn galw arno, a phwy sydd yno ond dwy lodes hoenus, landeg, gyda gwrid y mynydd ar eu