Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gruddiau, a direidi deniadol, a drechai fynach ac a brynnai sant, yn dawnsio'n beryglus o swynol yn eu llygaid. Merched, neu forwynion, y ty ydynt. Adwaena'r hen law ei gwsmeriaid, ac ail egyr ei bac yn ddiymdroi. Nid yw o ddiben yn y byd iddo ddangos y cerddi marwnadol iddynt. Ugain oed ydynt! Mae nerth ac iechyd yn eu holl ewynau. Llenwir eu llygaid â llawenydd, a'u calonnau à gobaith. Ni buont yn glaf am awr erioed, ac ni buasent yn gwybod am fodolaeth dagrau oni bai iddynt eu gweled ar ruddiau pobl eraill. Beth sydd a wnelynt hwy â Llenyddiaeth yr Amdo? Wedi troi heibio y marwnadau gyda diystyrrwch rhai wedi eu diogelu rhag drycin, gofynnant i'r hen frawd gyda math o ddiniweidrwydd, ar fin dysgu cellwair, yn brydferth yn eu llygaid,—"Oes gyno chi ddim cerddi caru, Tomos Williams?" "Wel," fyddai yr ateb, dipyn yn ochelgar, fe pe tae, dyma i ti hanes caru Hwsmon y Bryn hefo Morwyn y Ddôl, a dyma un arall ar—— ac yna tynnid cryn nifer o rai eraill allan gyda theitlau aruchel cyffelyb. Prynnid hwy yn ddiymdroi, gan nad pa faint fyddai ohonynt. Wrth daro'r fargen, gofynnai Tomos, "Rhoswch chi, yda chi'n 'nethod da'ch dwy?" "O, ydan, Tomos Williams, yr ydan ni'n perthyn i'r seiat yn y capel yng ngwaelod yr allt yna," fyddai yr ateb. Rhoddai hynyna ryw gymaint o olew ar gydwybod y marsiandwr dyddorol a chyfrwys; ac yna ai i'w daith yn llawen, wedi gwneyd masnach dda o ddagrau ffugiol a rhamant garu o'r degfed dosbarth wedi'r cant.