Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

X. TRAETHU AR BRIODAS.

NIS gwn fod llawer o engreifftiau o'r hyn a eelir yn briodol ei alw yn ffracthineb i'w gael yn hanes Tomos Williams. Efallai nad teg a fyddai honni ei fod yn wr ffraeth. Yr oedd tafod yr hen wr yn hollol barod ar bob amser i siarad ar unrhyw fater neu achlysur, ond hwyrach mai llefaru yn ddigon di-bwynt a wnai yn fynych iawn. Er hynny i gyd, dichon y taflai i mewn, yn awr ac yn y man, lawer brawddeg bert a difyrrus, a gwerth ei chofio. Pan y byddai mewn tymer lled dda, a phlant y dre wedi esgeuluso "plagio' nemawr arno, chwedl yntau, ceid ganddo, weithiau, ychydig o'i hanes yma a thraw yn y byd, ac yn yr hanesion hynny, yn hollol ddiarwybod iddo ef, ceid esamplau mynych o rywbeth tebyg iawn, o leiaf, i ffraethineb; neu, efallai, mai gwell fu- asai ei alw yn bertrwydd ymadrodd.

Pan yn hogyn drwg yn yr India, yn nechreu y ganrif o'r blaen, adroddai ei fod yn ninas Calcutta un diwrnod; iddo gael ei droi allan o'r lle y lletyai ynddo am guro y gwr a'r wraig a phump o "lodgers" oedd yno. Aeth allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau, heb fod ganddo yr un ddimai yn ei boced. Daeth eisieu bwyd a diod arno, a phan wedi dioddef y cyfryw eisieu yn hir iawn, daeth i gyfarfod â boneddiges hardd a lled rodresgar yr olwg arni. Yn ei gyfyngder gofynnodd iddi am dipyn o help. Aeth hithau mewn ymchwydd mawr a gogoneddus i'w phwrs, a thynnodd ddimai allan, gan ei hestyn iddo. Edrychodd Tomos yn lled ddi-