Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

frifol, ac, efallai, yn sarhaus, ar y dernyn a roddwyd yn ei law; ac ebai wrth y foneddiges, sidanaidd, mewn mwy nag un ystyr, gan gapio yn nodweddiadol arni,—" Ydach chi'n siwr, m'm, y medrwch chi sbario cymin a hyn?" Wedi rhoddi y glec yna iddi, aeth Tomos yn ei flaen yn fyfyrgar ryfeddol.

Fel yr wyf, mae'n debyg, eisoes wedi awgrymu, nid oedd efe a'i wraig, Beti Morus, wedi byw ar y telerau goreu. Credai Beti nad oedd Tomos yn rhoddi digon o arian iddi i gadw'r ty—cynnyrch y ffortun ddychmygol oddiwrth yr almanaciau a'r cerddi. Meddai Beti ar dafod ryfeddol o barod, ac, ysywaeth, yr oedd gan Domos dafod llawn mor barod a hithau. Yr oedd donioldeb a hyawdledd eu ffrae, weithiau, yn destyn sylw a dyddordeb heol gyfan. Rhaid yw addef fod Tomos, hyd yn oed pan yn Gristion, yn ffraewr digyffelyb. Gallai gyda'r rhwyddineb mwyaf ddyfynnu adnodau o epistolau Paul i brofi yr hawl i'r priodoldeb o ffraeo. O ran hynny, medrai efe wneyd ambell adnod a'i chyfaddasu at ei weithredoedd a'i ymddygiadau ei hun, gan fod yn ddigon beiddgar i'w thadogi ar neb llai nag Apostol mawr y Cenedloedd ei hun.

Un diwrnod, pan oedd Beti ac yntau yn cweryla dan arddeliad neillduol o amlwg, cododd Tomos ei lais, ac, efallai, ei law, a llefodd â llef uchel,—

"Wel di, Beti, dydw i ddim yn mynd i gymryd fel hyn gen ti o hyd. Dydi'r Scrythyr 'i hun ddim yn disgwyl i mi neud hynny. Dyna'r 'Posol Paul, wyt ti'n gweld, pan oedd o'n correspondio hefo'r lodes-nage, y Lodeseaid-mi roedd yna fwy nag un-pan oedd o yn cadw cypeini i'r lêdis reiny, mi ddeudodd