Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth un o honyn 'hw,-'Paid ti a mynd yn gocyn hitio i bawb nac i neb arall,' a dydw inna, Beti, ddim yn mynd i d'adael ditha i nhroi a nhrosi finna fel yr wyt ti'n leicio."

Wedi'r araeth awdurdodol yna, byddai Beti Morus yn dechreu arni, ac yn dweyd y drefn gyda chryn hyawdledd, ac ar derfyn ei hanerchiad dywedai,—" Cofiwch chi, Tomos Williams, fod chi wedi nghymryd i er gwell ac er gwaeth." "Do," oedd atebiad Tomos, "mi cymris i di, yr hen sopen anghynnes, er gwell o lawer nag yr wyt ti."

Byddai Tomos, yn bur fynych, yn athrawiaethu, neu yn doethinebu, beth a ddywedaf, ar fusnes y priodi. Naturiol iawn oedd iddo wneyd hynny, yn bennaf, oherwydd y profiad chwerw a gafodd ei hun o gylch y fodrwy. Digwyddai fod yn Llanfairtalhaiarn un diwrnod, ac yr oedd dwy briodas yn cymeryd lle yn eglwys y plwyf ar yr un bore, yr hyn oedd yn beth lled anghyffredin yn y pentref tlws a barddonol hwnnw. Clywodd Tomos am y priodasau, ac wedi amlygu cryn syndod o'r herwydd, meddai, yn dra difrifol,—" Druan ohonynhwy, yn mentro gneud ffasiwn beth! Mi fydd yn difar gan i clonna nhw cyn pen 'chydig wsnosau. Peth ofnadwy ydi priodi, tasa pobol yn dallt hynny. Wyddo nhw ddim yn iawn be mae nhw'n i neyd pan y byddan nhw'n priodi. Mi ddyla'r hogia yma gofio mai nid person y ddynes mae nhw'n briodi. Mi ddaru mi briodi hefo'r hen Feti Morus honno, Mi wyddoch chi, ond ar ol gneyd, mi welis i yn fuan iawn mod i wedi priodi ei thlodi hi, ei thempar hi, ei thwyll hi, a'r hen sgiams ofnadwy oedd yn perthyn iddi hi. Wyddoch chi beth, fechgyn, mi 'roedd yna ddynes ddall yn y