Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dre acw, dro byd yn ol, yn mynd i briodi, ac mi ddeudais i, os basa rhwbath yn agor i llygid hi, mai priodi fasa'r peth tybyca o neud hynny; ac, yn siwr i chi, mae honno, rwan, yn gweld yn iawn heb na sbectols na dim."

Unwaith daeth pâr ifanc oedd wedi priodi ers blwyddyn neu ddwy, ato i ddweyd fod gan- ddynt fabi, ac yr oedd y baban ar freichiau ei fam ar y pryd, a danghoswyd ef gyda phob balchder goddefadwy a naturiol i Domos Wil- liams. Wrth weled yr hen sylwedydd mor ddi- gyffro, gofynnodd y gwr ifanc iddo,-

"Wel, Tomos Williams, beth yda chi'n feddwl o'r babi? Welsoch chi un clysach na fo yn rhywle ryw dro?"

"Wel," atebai yntau, "peth ofnadwy ydi babi, fel y cei di weled mewn deufis neu dri. Mi fu gen i fabi ryw dro, ac ni welis di 'rioed ffasiwn gampia a llanast fedra fo neyd mewn rhyw hanner awr. Wyddost ti, mi fedrai hwnnw waeddi am ddeng munud heb gymyd ei wynt o gwbwl. Mi fyddai'n tynnu digon o flew o marf a ngwallt i i stwffio gobennydd y dydd y mynnoch di. Mi fydda'n tynnu pob math o luniau ar bapyr y wal hefo'r pocer; ac .mi wnai hynny weithia pan fyddai hwnnw yn boeth. Mi fydda'r criadur bron yn sicir o fynd yn swp sal os na fedra fo dorri soser ne gwpan dê yn regilar bob pum munud. Mi fyddai yn gofalu am syrthio ar i wymad i'r lle cadw glo, ac ni ddoi y gwalch ddim oddi yno os nad awn i a'r pot jam iddo fo. Peth ofnadwy ydi babi, wel di! Paid ti a chanmol gormod arno fo, nac ymfalchio gormod yno fo ar y dechra 'ma.'

Llawer o sylwadau cyffelyb yn ddiameu a draddododd Tomos Williams ar y cwestiwn mawr a dyddorol o briodi a dechreu byw.