Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bechoda go fychin fel y geiria segur yma 'rydach chi'n son am danynhw, ac yn gadac! y pechod mawr-Alcohol-heb ei dwtsiad. Aim higher up, medda fi. Pe bae ni yn medru rhoi tipyn o shots effeithiol yn hwn—y trained soldier yma-welsoch chi 'rioed gynt y gwnae ni o'r gora a rhyw fân dacla o elynion fel rhegi, dwyn, a thorri'r Sabboth, a phetha felly. Rhoi bwlet drwy'r barila yna ddoi a'r byd i'w le."

Erbyn i'r hen frawd orffen, ac ynghynt o ran hynny, yr oedd gwên siriol o edmygedd, ac, efallai, o gydsyniad, yn ymdaenu dros wynebau Moses Parry a John Jones. Cafodd Tomos ei gwpwrdd yn berffaith lawn at y Sul ar ol yr araeth bert yna.