Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wrth gael y fath engraifft o eiriadur y gwyl segur, a hynny mor ddiseremoni, ac wrth weled John Jones yn edrych yn hollol ddychrynedig, fel dyn wedi derbyn llawer mwy nag yr oedd wedi bargeinio am dano, yr oedd Moses Parry ymron siglo gan chwerthin.

Yna aeth Tomos ymlaen yn debyg i hyn,—"Am dana i fy hun, fydda i byth yn arfer geiria fel yna ond ar sgawt rwan, yn enwedig pan fydd y cathod acw wedi dwyn cig, ne wedi gneud rhyw sbrêj debyg y tu fewn i'r cwpwr. Rhaid i mi gyfadde y bydd 'y nhafod i yn cymyd cryn leisans os bydd rhyw styrbans fel yna yn y ty. Wrth neud cymint o helynt hefo geiria fel hyn, dwn i ddim yda ni ar y reit lein ai peidio. Mi rydw i'n cofio pan oeddwn i yn y Sbaen hefo'r sowldiwrs, fod yna dipyn o sgyrmij un diwrnod hefo'r Ffrancod. Mi 'roedd yna lot o honynhw ar ddarn o wastad o'n blaen ni, a tu ol i'r rheini, uwch i penna, ar dipyn o godiad tir, yr oedd yna lot arall o Ffrancod; ond ar y rhai oedd ar y gwastad, wrth i bod nhw yn gosach ato ni, yr oedda ni'n saethu gan mwyaf. Ond dyma Wellington i'r lle ar gefn i geffyl, a dyma fo'n rhoi'r ordors, Aim higher up (Anelwch yn uwch i fyny'), gan bwyntio at y rhai oedd ar y codiad tir. Mi wnaethon ninna hynny, ac wedi i ni daflu tipyn o shots i ddychryn tipyn ar y rheini, welsoch chi 'rioed mor fuan y daru ni setlo y lot oedd ar y gwastad yn ymyl. 'Doedd y rheini yn ddim ond rhyw hen rabsgaliwns di-doriad oedd Napoleon wedi hel oddiar strydoedd Ffrainc, ond mi 'roedd y rhai oedd ar y top yn trained soldiers, yn hogia peryglus. Felly mae yna berig i ninna wastio'n shots ar ryw