Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arfod Misol i rybuddio a chynghori yr eglwysi yng nghylch arferiad o'r fath. Y ddau a benodwyd i ddod drwy sir Ddinbych oedd y Parchn. Moses Parry, Dinbych; a John Jones, Runcorn. Adnabyddid Moses Parry fel gwr o gryn awdurdod, deall, a medr, yr oedd yn ŵr call cyfrwysgall, os mynner—ac yn un a fedrai fwynhau ambell dro digrif, neu dro doniol, fel y dywedir. O'r ochr arall, yr oedd John Jones yn bregethwr rhagorol iawn, yn un a chryn lawer o ddiniweidrwydd ynddo, ac yr oedd yn hollol at alwad ac awgrym Moses Parry i wneyd unrhyw beth a fynnai ganddo. Yn eu tro, daeth y ddau wr parchedig i Lanrwst, ac ar ddechreu y seiat traddododd Moses Parry anerchiad ar yr ynfydrwydd o arfer geiriau segur, gan gondemnio hynny gyda chryn lawer o lymdra. Wedi i dri neu bedwar o'r swyddogion siarad, gofynnodd Moses Parry i John Jones fyned o gwmpas i ymddiddan â rhai o'r aelodau, a dywedodd wrtho yn ddistaw fod yna ddyn (gan bwyntio at Tomos, yr hwn a adwaenai yn dda) yr hwn a fuasai yn sicr o fedru dweyd tipyn ar y pwnc, ac y buasai, hwyrach, yn rhoddi esamplau o'r geiriau a gondemnid, fel na byddai neb yn camddeall yn eu cylch. Llyncodd John Jones yr abwyd, ac ym mhen ychydig daeth at Tomos, ac wedi agor yr ymddiddan ag ef, gofynnodd iddo beth oedd y geiriau tebyg i regu a arferid fynychaf yn Llanrwst a'r gymydogaeth.

"Ho," meddai Tomos yn hollol ddiymdroi, "dyma i chi rai ohonynhw,—gafr gwyllt, drapid las, gafr a'm cipio i, yr achlod fawr. myn diawst, gafr a'm sgubo, diwcs anwyl, myn cebyst, ac ar fengoch i."