Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrtha i yn union deg, Too old, Thomas ;' ond pan gynhygis i fy hun i army arall, soniodd y Commander mawr ddim am ffasiwn beth. Ddaru fo ddim cymin ag edrach a oedd 'y ngwallt i wedi llwydo, ne a oedd 'y nghefn i wedi camu. Y cwbwl ddaru fo oedd rhoi'r uniform am dana i hefo'i law ei hun, a deyd dan wenu'n eind yn y 'ngwymad i,-Fall in! Tomos Williams.' Mae'n wir mai rhyw fartshio dipyn yn drwsgwl yr ydw i, ond ches i'r un codwm eto; ac os byddai'n cwyno mod i'n wan, ac fod y baich yn drwm, mi fydd ys- gwydd y General mawr ei hun o dano fo mewn dau funud."

Eto,-

"Mi fyddwn yn clywad lliwiad yn amal iawn fod byddin Lloegar yn derbyn lladron, meddwon, a phob sort o hen straglers i mewn i'w gwasanaeth. Ond rhoswch chi dipyn bach. Mi ddaru Iesu Grist listio hen leidar du i'w serfis ynta, a phan oedd o'n marw ar y groes mi setlodd 'partments yn y drydedd nef iddo fo yn i flortiwn. Dyna i chi Mair Magdalen, wedyn honno wedi medru rhoi lojins i gymin a saith o gythreuliaid. Rhaid mai rhyw hen dacla yr oedd Satan yn meddwl y medrai fo fyw hebddynhw oedd y rheini, ac mi gawson discharge, ne, wyrach. i gollwng ar ffyrlo. Chafodd y enafon ddim llawer o groeso pan ddaru nhw gyrraedd adra yn i hola."

Mewn Cymdeithasfa Chwarterol yn y Gogledd, lawer o flynyddau yn ol, cwynid yng nghylch gwaith ieuenctyd, yn arbennig, yn arfer geiriau ysgafn ac ofer; nid rhegfeydd yn hollol, ond geiriau tebyg i regfeydd; a phen- derfynwyd anfon dau weinidog drwy bob Cyf-