Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r almanaciau, a chan ei fod yn bwriadu aros dros nos, ac iddo ddeall fod seiat yn cael ei chynnal yn y capel y noson honno, penderfynodd fyned iddi. Mae'n iawn i mi egluro fod rhyw anghydfod blin wedi torri allan ers tro ymhlith swyddogion ac aelodau yr eglwys honno, ac fod Tomos yn eithaf hyspys o'r ymgecru ffol a'r enllibio cableddus oedd yn myned ymlaen rhyngddynt. Gwenai y ddwyblaid yn ddedwydd arno pan aeth i mewn, nes y buasai dyn yn tybio ar y funud honno "fod pawb o'r brodyr yno'n un, heb neb yn tynnu'n groes." Dichon fod ei silcan batriarchaidd dipyn yn dolciog, ac nas gallesid, mwyach, honni ei bod yn ddu; fod ei hances gwddw dipyn yn afler, a'r cwlwm, nad oedd ffasiwn yn perthynu iddo, wedi cael cyflawn ryddid i grwydro ar dde neu aswy; ac fod ysmotiau ar y gôt fu yn addurn ac yn gynhesrwydd i genedlaethau claddedig—dichon, meddaf, fod rhywbeth yn ymddanghosiad yr hen wr wedi achosi y sylw a'r gwenau a gafodd. Modd bynnag, efallai, cyn diwedd y seiat, nad oeddynt mor barod i wenu ar yr hen frawd hurt a di-doriad ei ber son. Wedi peth siarad mewn ffordd o agor y cyfarfod, dywedodd un o'r blaenoriaid,

Tomos Williams, mae'n dda gan ein clonna ni 'ch gweld chi wedi dwad ato ni; newch chi ddeud gair?" Ac, yn wir, dyna'r hen wr ar ei draed, a'r capel drwyddo yn un wên foddhaus o sêt i sêt, a phawb, yn gall ac yn ffol," yn gosod eu hunain yn yr ystum oreu i wrando arno, gan ddisgwyl am gyflawnder o ddigrifwch a hwyl. Ond buan iawn y gwelsant iddynt fargeinio yn rhy ddrud drwy ofyn i'r marsiandwr cerddi siarad. Gyda golwg lem a llais