Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

uchel, rhywbeth fel hyn a lefarodd yr hen wr,—"Mi rydw i wedi clywad nad yda chi ddim yn byw yn rhyw gytun iawn hefo'ch gilydd yn y fan yma ers cryn amser bellach, ond y'ch bod chi'n ffraeo ac yn tafodi fel Gwyddelod mewn ocsiwn, ne nigars mewn tent, yma. Cebyst o beth ydi hynny, hefyd. Yn eno'r anwyl, bybe sydd wedi codi yn y'ch penna chi, bobol? Mi fyddwn i a Beti Morus, estalwm, yn ffraeo'n gyrbibion a'n gilydd; ond yn ein ty ni'n hunain, ac nid yn Nhy Dduw, y bydda ni'n gneyd hynny. Pobol yn cymyd arnyn nhw fod yn perthyn i rijment Tywysog Tangnefedd—Commander mwya'r nefoedd a'r ddaear-yn cadw twrw! Rhag y'ch cwilydd chi, bobol! Mae gweled dynion yn heltar sgeltar mewn ty tafarn yn beth digon hyll; ond mae gweld nhw yn higldi-pigldi mewn capel yn beth saith gwaeth. Da chi, er mwyn y Gwr fu yn ddigon ffeind i farw drosto ni, a hynny heb i ni ofyn iddo fo, treiwch byhafio! Cofiwch pwy ydach chi'n gymyd arnoch ydach chi. Peth anffodus oedd i'r llongwrs rheini gysgu ar y voyage honno i Tarsis, estalwm; ond yr oedd i Jona gysgu yn gneyd y busnes yn waeth ganwaith. Wrth gwrs, mi dalodd Duw am 'partments iddo fo mewn drawing room oedd gen rhyw filionêr rispectabl o forfil; ond pe cawsech chi'ch taflu i fôr y byd, mi fydda holl sharks uffern wedi'ch gneyd chi'n sgyrion cyn pen dau funud. Mewn difri, ddynion, gweddiwch fwy a ffreuwch lai." Eisteddodd Tomos i lawr a golwg gynhyrfus Wedi y fath hyawdledd gwerinaidd a'r uchod—math o gyffredinedd wedi ei ysbrydoli —gorchuddiwyd pob wyneb gan gywilydd ac arswyd. arno. Diweddwyd y seiat yn swta, heb gyf-