Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lwyno mawl na thraddodi bendith, a diangodd pawb i'w gartref heb yngan gair. Hwyrach y bu anerchiad plaen yr apostol beiddgar, ond di-addurn a di-awdurdod, o Lanrwst, o fwy o fendith i'r eglwys honno na hyd yn oed ymweliad cenhadon oddiwrth Gyfarfod Misol y sir. Fe arferir dweyd y ceir perl o enau llyffant, weithiau.

Tua hanner can mlynedd yn ol, yr oedd yn Llanrwst wr ieuanc a'i fryd ar fyned i'r weinidogaeth, ac, efallai, wedi dechreu pregethu. Rhywbryd, ar y ffordd, neu mewn ty, cyfarfyddodd Tomos Williams ag ef, a gofynnodd rhywun iddo roi gair o gyngor i'r dyn ieuanc. Ufuddhaodd yntau. Wedi rhagymadroddi mewn dull cyffredin, dywedodd wrtho,—

"Gofala di am ddwad allan yn bregethwr iawn; yn well pregethwr o'r hanner na ——.Eisio concro pechod sydd yn y byd yma, wel di. Mae'r arfau at neyd hynny yn ol reit, ac mae nhw gen ti yn lân ac yn finiog. Mi welis i lawer sawldiwr a chyno fo gledda nobl ofnatsan, ond pan ddoi hi'n binsh arno, fedra fo ddim i handlo. Rwan, gofala di am gael training iawn wrth orsedd gras, nes y medri di handlo cledda'r Ysbryd, fel na bydd yna'r un yn rijiment y Ciaptan mawr yn medru mynd a'r belt oddiarna ti. Ond pe dasa ti'n digwydd methu bod yn bregethwr mawr, mi fedri fod yn bregethwr duwiol. Fydd o fawr o gamp i ti fod yn fwy galluog na Charles Melus[1]. Ond mi fydd yn gamp fawr i ti fod yn fwy duwiol

  1. Charles Mellish, Llanfairtalhaiarn, hen bregethwr di-ddawn, ond nodedig o dduwiol, gyda'r Methodistiaid.