Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

na fo. Beth bynnag nei di, cofia fod yn ffyddlon hyd angau. Yn amser y rhyfel ofnadwy rhwng Wellington a Napoleon, mi roedda ni wedi bod am un Wsnos yn batlo riw gymint yn ddi-stop, bron ddydd a nos, ar ochra Sbaen; ond un bora, dyma ni'n cael batl fawr am gwmpas saith o oria. Mi gafodd cannoedd o bobtu eu lladd. Am yr wsnos honno, mi roeddwn i wedi mhenodi hefo lot o rai erill, i fynd drwy'r maes i chwilio am y cyrff meirwon, ac i'w claddu nhw. Ac ar ol y fatl fawr yr ydw i yn son am dani hi, dyma ni yn dwad o hyd i gorff bachgen clws, gwmpas un ar bymtheg oed, bachgen o fiwglar yn perthyn i'r French—yng nghanol ein pobl ni. Mi 'roedd o wedi cael ergyd farwol yn ei dalcen; a dyna lle 'roedd y peth bach clws, yn gorwedd ar wastad i gefn, a'r biwgl wrth ei wefusau, a'i law bach, anwyl, yn cydio yn dynn am dano fo. Dyna i ti farw iawn! 'Rwan, John, pan ddaw dy dyrn ditha i farw, cofia di fod yr angylion fydd wedi cael ordors i ddwad yma i nol d'enaid di, yn cael hyd i dy gorff gydag Udgorn mawr yr Iechydwriaeth yn sownd wrth dy wefusa di."