Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XIII. PREGETH I BERSON.

YN Llanrwst, ers llawer o flynyddau yn ol, yr oedd gŵr ieuanc, yr hwn mewn cryn amser ar ol hynny a ddaeth i gael ei adnabod fel y Parch. Robert Jones, M.A., ficer Llanidloes, yr wyf yn meddwl. Mab ydoedd i wr bucheddol a pharchus o'r enw Evan Jones, y gof, Talybont—rhan o ben uchaf tref Llanrwst. Yr oedd Evan Jones mewn amgylchiadau eithaf cysurus, ac yr oedd efe a'i wraig yn aelodau cyson yn y Capel Mawr; ac yn seiat y capel hwnnw y dygwyd Robert, eu mab, yr hwn, fel y dylaswn fod wedi dweyd, a adwaenid wrth y ffugenw "Quellyn," i fyny. Dywedir i Robert dyfu i fyny yn wr ieuanc balch ac uchelfryd. Dechreuodd flino yn fuan ar hen frodyr a chwiorydd manwl a defosiynol y Capel Mawr. Yr oeddynt yn rhy grin a hen ffasiwn i wr ieuanc hardd o berson a thrwsiadus o wisg fel efe. Methodd a chadw y ffydd Fethodistaidd, ac yn lled ddidrafferth iddo ei hun, aeth drosodd i Eglwys Loegr, yr eglwys yr oedd "Titley the Tattler,' Boulger the Belgian," a "Davies the Diver," chwedl yntau, yn perthyn iddi. Hen bersoniaid parchus, caredig, a diniwed oedd y boneddigion hyn y chwareuai Quellyn mor ddoniol gyda'u henwau, sef y Parchn. Peter Titley, Penloyn; John Boulger, Pennant; a Davies, y Graig, Llanddoged. Aeth Quellyn i Rydychen, neu Gaer- grawnt, a daeth yn ysgolor o dan gamp. Dis-