Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gleiriai yn arbennig o ran gallu i ddysgu ieithoedd; ac os oedd yn falch yn myned yno, daeth Nid oedd yn oddiyno yn ganwaith balchach. adnabod neb ymron yn ei hen dref enedigol; yn wir, dywedir mai prin yr adwaenai y fam a roddodd sugn iddo. Ymroddodd a'i holl enaid i gashau Methodistiaeth, ac o dipyn i beth aeth ei gariad yn eisieu at ei wlad a'i genedl ei hun. Ei duedd ydoedd gwneyd pob peth yn Saesneg. Dichon fod rhyw reswm dros yr oerfel-garwch hwn at yr Ymneillduwyr yn arbennig, ac at y Cymry yn gyffredinol; ond nid wyf yn sicr beth ydoedd. Wedi pasio i fod yn berson, ni bu iddo ymweled ond rhyw unwaith neu ddwy â Llanrwst, a rhag i'r darllennydd feddwl mai myned i geisio dweyd hanes Quellyn yn unig yr wyf, mae'n bryd i mi ddweyd mai at un o'r ymweliadau hynny mewn cysylltiad a Thomas Williams yr wyf yn bwriadu son am funud neu ddau, fel y bydd y pregethwyr yma yn dweyd pan yn bwriadu siarad am hanner awr.

Un diwrnod, yr oedd Tomos yn mynd i fyny'r dref, a llwyth o almanaciau a cherddi ar ei ysgwydd, ac yn ei basio yn ysgornllyd ryfeddol, wele wr boneddigaidd, gyda cherddediad gwisgi, a chôt ddu, a chadach gwyn. Gofynnodd rhywun i Domos Williams ai ni wyddai pwy ydoedd, ac wedi cael atebiad nacaol, dywedodd mai Robert, mab Evan Jones, Talybont, ydoedd, a'i fod yn berson yn rhywle, yng nghydag ychwaneg o fanylion, mae'n debyg. Synnodd Tomos yn ddirfawr; gwnaeth olwg ddigofus; ond heb ddweyd gair, ymaith ag ef cyn gyflymed ag y caniatai y lenyddiaeth fuddiol oedd yn bwysau ar ei gefn ac yn ei