Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bocedau, iddo fyned. Wrth fyned, gwaeddai yn uchel,—

"Hai! Hai! Bob, hwda, aros."

Wedi dod at y siamber wenith—magwrfa llygod ac yspyty pryfaid genwair—a elwir yn "Hall," yr hon sydd yn ddolur llygad ar ganol y dref, daeth Tomos hyd i Quellyn. Nid oedd yn bosibl i'r diweddaf ei osgoi, bellach, a throdd ato gyda chryn lawer o ddigter yn ei drem a'i lais, a gofynnodd yn chwerw,—

"I beth yr wyt ti'n cerdded ar fy ol i, Twm? Wyddost ti hefo pwy 'rwyt ti'n siarad?"

Mae'n rhaid fod Quellyn wedi anghofio am dafod Tomos Williams, neu ni buasai byth yn ei gyfarch fel yna. Yr oedd pasio yr hen frawd heb gymeryd arno ei adnabod yn bechod mawr, ond yr oedd ei gyfarch gyda balchder brwnt yn ychwanegiad pwysig at y pechod hwnnw.

Rhoddodd Tomos yr ysgrepan oedd yn llawn o almanaciau i lawr, a dechreuodd dorsythu yn barod i frwydr, fel y bu yn gwneyd yn yr India, yn Belgium, ac yn Sbaen, yn ol ei adroddiadau ei hun. Yna dechreuodd dafodi,—

"Cerdded ar d'ol di, wir! Mae'n dda i ti gael rhywun i neyd hynny, os oes gin ti eglwys yn rhywla, y corgi balch! mi rydw i'n bur siwr mai 'chydig iawn sydd o gerddad ar d'ol di i'r fan honno, beth bynnag. Wn i hefo pwy rydw i'n siarad, wir! Gwn yn iawn, wel di: hefo Bob, mab Evan Jones, Talybont. Wyt ti'n meddwl, wyrach, mai rhywun arall wyt ti. Waeth i ti heb yr un mymryn; fedar dy giard wats di, fedar dy fodrwy aur di, fedar dy