Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddillad crand di, na'r trimins yna sy o gwmpas d'wddw di ddim dy neyd ti yn fab i neb arall. Mi fum i yn serfis Brenin Lloegar—George the Third-ond mi rydw i rwan yn serfis Brenin y Gogoniant—Iesu Grist. 'Sgwn i yn serfis pwy rwyt ti? Tydi fod dillad person am dana ti yn profi dim byd. Er saled ydi mrethyn i, wyrach y do i allan cystal a thitha pan fydd y roll call yn cael i galw ddydd y Farn. Wyddost ti, pan oeddwn i yn martsio hefo'r army' drwy un o strydoedd sala Brussels, yn Belgium, mi welson hogyn bach yn hanner noeth, a bron a starfio ar step drws ty rhywun, ac mi ddeudodd un o'r hogia oedd hefo fi fod hwnnw yn fab i Brins, ond i fod o heb ei wisgoedd. Cofia di, Rhobat, fod ambell un ohonom ninna sy'n gorfod trampio'r wlad, a hynny mewn carpia digon di-lun, yn feibion i'r 'Prince of Peace,' ond bod ni eto heb gael ein dillad. Mae nhw wedi cael eu gneyd, wel di, ac mi rôth y sawl oedd yn i gneyd nhw y finishing touch' a'i law ei hunan iddynhw ar Galfaria. [Erbyn hyn yr oedd Quellyn wedi ymroi i wrando mewn difrifwch a syndod, ac yr oedd tua dwsin o bobl wedi ymgasglu i wrando yr efengyl yn ol Tomos Williams o Gapelulo.] Ac er i bod nhw'n berffaith newydd, mi fynnodd gael i golchi nhw ar y Groes yn i waed ei hun, ac yrwan y mae o wedi taenu nhw allan ar gloddia'r nefoedd, ac mae Haul y Cyfiawnder yn i gwynnu nhw o flwyddyn i flwyddyn. Chdi pia hi am ddillad heddyw, Rhobat, ond tendia di rhag ofn fod yna ddiwrnod yn dwad y bydd yr hen Gapelulo yn dy owtsheinio di yngwydd can mil o angylion. Mae arna i ofn dy fod ti yn rhoi cymin o grefydd o gwmpas dy wddw