Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel nad oes gen ti ddim ar dy helw ohoni i'w roi yn dy galon. Paid ti a meddwl mai'r ffwl welis di flynyddau yn ol ydi Capelulo heddyw."

Wedi traddodi y wers hyawdl yna, estynnodd Tomos ei law at ysgrepan y cerddi, i fyned i gychwyn i ffordd, ond pan yn gwneyd hynny, yr oedd sarugrwydd Quellyn wedi cilio, ac edrychai yn siriol a thyner ar yr hen Domos ddawnus. Er syndod i bawb oedd yn ei adnabod, gofynnodd yn garedig i Domos faddeu iddo, ac wedi iddo yntau ddweyd,—"Pob peth yn iawn; gwnaf o waelod calon, Mr. Jones, achos mae Iesu Grist yn siwr o neud, a dan i faner o yr ydw i yn martsio ers blynyddoedd rwan," estynnodd Quellyn sofren felen iddo, ac wedi diolch yn ddoniol am dani, aeth Tomos Williams adref yn llawen i adrodd yr hanes wrth y cathod deallus, Handy a Judy.