Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel, Judy bach, dwn i yn y byd mawr be ddoth atat ti i fynd a chdi odd'ma mor sydyn. Mi clywis i di'n mewian ganol nos, ac mi glywis Handy yn mewian hefyd; ond mi ddylis i yn ddigon diniwed mai cadw council of war' yr oedda chi ar achos y llygod yma sy wedi retreatio i'r ty nesa rhag y'ch palfa chi. Wyddwn i ddim mai sal oeddat ti. Taswn i'n dallt hynny, mi fasat yn cael dwyn y gnegwerth lefrith oedd yn y cwpwr, ac mi fasa i ti groeso o'r ddau benog picl oedd yn y pantri. Taswn i'n gwbod dy fod ti'n cwyno, mi faswn wedi mynd at Lewis Tomos, y druggist, berfadd nos, yn y nghrys, ac yn droed noeth. Mi fasa fo wedi gneud dôs o dingtur riwbob a spurut neitar i ti, ac wyrach y basa ti wedi mendio yn sbriws ar ol petha felly. Ond 'does mor help. Mi gest groesi'r borders heb golli yr un fatl erioed. Wrth gwrs, mae'n rhaid cyfadda nad oedda ti ddim yn rhyw onest iawn. 'Doedda ti ddim yn gysetlyd o gwbwl os byddai tipyn o gaws ne damed o gig yn digwydd bod yn d'ymy! di. Fyddai raid i neb fynd i'r drafferth i ddeyd wrtha ti am futa, ac am neyd dy hun fel pe dasa ti gartra. Hitia befo, mi bechaist beth ofnadwy; ond fuo raid iti 'rioed ofyn am faddeuant am neyd hynny. Fydda ti ddim yn ofni yr hyn oedd i ddwad, nac yn poeni o achos yr hyn oedd wedi bod. Dwn i ddim be neith Handy yma ar d'ol di. Ond wyrach ei bod hi'n ddigon balch dy fod di wedi mynd. Mi gaiff ddwyn y cwbwl ei hun, rwan; a phan fydd hi wedi mentro ar sgrag go lew, fydd dim eisio rhannu'r yspail. Sut bynnag, mi ro i ruban du am ei gwddw hi, er mwyn iddi hi fod mewn