Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Druan ohonot ti, mowrning ar ol ei chwaer. Judy bach! Tasa hynny o lygod sydd yn y fan yma yn gwybod na wyddost ti ddim gwahaniaeth heddyw rhwng llygoden a thatws pinc eis, mi fasan yn dwad dan orfoleddu yn un rijment i dy gnebrwn di."

Wrth gwrs, rhaid oedd i'r cwmni wrando gydag ymddanghosiad o ddifrifwch, o leiaf, ar y bregeth angladdol yna uwch ben corpws y gath. Wedi cydymdeimlo â Thomos yn ei brofedigaeth, ac efallai, tanysgrifio yn anrhydeddus at gae l"mourning" i Handy, deuid, o dipyn i beth, at bwrpas yr ymweliad. Gofynnodd un o honynt yn araf a gwyliadwrus,-

"Fedrwch chwi ddweyd wrthym ni, Tomos Williams, o ble y cafodd Cain ei wraig?"

"Wel, aros di," oedd yr ateb "fedri di , ddeyd y geiria rheini, 'Gyda Duw pob peth sydd bosibl?'"

"Medraf, siwr," ebai y llanc.

"O'r gora," medda Tomos, "os medri di neyd hynny, raid i ti ddim dwad yma i nghateceisio fi ynghylch ple y ffeindiodd y mwrdrwr hwnnw wraig iddo ei hun."

"Mae'r Pabyddion, Tomos Williams," ebai un arall o'r cwmni, "yn arfer addoli Mair. Pam y maent yn arfer a gwneyd hynny?"

"Wel," meddai yr hen wr, gan sythu ei gefn, "ond am i bod nhw'n ffyliaid, fachgen. Wyt ti ddim yn cofio be mae'r Sgrythyr yn ddeyd am bobol gallach ddengwaith na nhw—Dyma nhw'r geiriau, y doethion o'r dwyrain? —Hwy a welsant y Mab bychan gyda Mair ei fam; a hwy a syrthiasant i lawr, ac a'i haddolasant Ef.' Addoli Iesu Grist ddaru sgolers