Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mawr fel yna, ac nid addoli Mair. Dyna i ti glenshiar! Lle mae dy Babyddion di, rwan?" Yna daeth y trydydd ymlaen gyda'i gwestiwn, a dyna ydoedd,—

"Y mae Elias y Thesbiad yn deyd geiria felly, Ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na gwlaw, ond yn ol fy ngair i.' Sut yr oedd Elias yn mentro deyd peth mor feiddgar ar ei gyfrifoldeb ei hun. Yn ol y geiriau yna y mae y proffwyd ei hun yn cloi y nefoedd."

"O," ebai'r hen Domos, "y mae pob peth yn eitha clir ond i ti gofio pwy ddaru roi'r 'goriad iddo fo."

Wedi ateb dau neu dri o gwestiynau yn ychwaneg, a hynny mewn dull hollol wreiddiol, trodd Tomos at ei gwestiynwyr gan ddywedyd,—

Welwch chi, mi ddyla fod gyno chi ryw amgenach gwaith i'w neyd ac yn galw am danoch chi na dwad yma i gateceisio hen greadur dwl fel fi. Ysgrifenyddion a'r Phariseaid ddaru ddechra'r job yna estalwm, bellach. Mi fydda nhw yn dwad at Iesu Grist i dreio'i faglu a'i rwydo fo. Ond toedd waeth iddynhw heb; mi roedd o yn fwy o sgolar ac o dwrna na neb arall a fu yn y byd yma erioed. 'Doedd yna neb yn yr un class a fo yng ngholej ei Dad. Mi roedd yna slegion mawr fel Gabriel a Michael mewn classes ymhell, bell ar i ol o. Fedrai Gabriel ddim gneyd y sum leia wnaeth Iesu Grist erioed; ond, welwch chi, Y mae efe yn rhifo rhifedi y ser.' Dyna i chi gownshiwr! Dydw i ddim yn meddwl fod Michael yn rhyw glyfar yn y byd mewn ieithoedd, ond gwrandewch beth sy'n cael ei ddeyd am ei Arglwydd o: 'Y