Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw.' Efe sydd yn rhoddi i'r anifail ei borthiant, ac i gywion y gigfran pan lefant.' Dyna i chi gamp! Mae Iesu Grist yn medru iaith cenawon llewod a chywion cigfrain. 'Doedd dim rhyfedd i'w Dad o, a hynny cyn i'r examination fawr orffen, dorri allan i ddweyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd.' Os oes gyno chi gwestiyna i'w gofyn, hogia, ewch a nhw at Iesu Grist. Peidiwch a'i insyltio fo hefo holi yng nghylch gwraig Cain a physgodyn Jona, a rhyw betha bach, disylw fel yna. Ond dowch ar unwaith at fusnes eich eneidia, a gofynnwch iddo fo beth i'w wneyd fel y byddoch gadwedig, a beth i'w wneyd er mwyn etifeddu bywyd tragwyddol. Cwestiynau fel yna sydd i fod i lawr yng nghatecism pechadur."