Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XV. DAFYDD EVANS Y PANDY.

FEL yr wyf, yn ddiameu, wedi dweyd fwy nag unwaith, arferai Tomos Williams dynnu ymron yr oll o'i gymhariaethau oddiwrth y môr a'r maes, yn yr ystyr filwrol iddynt.

Gofynwyd iddo yng Ngwytherin, ar adeg o ddiwygiad dirwestol, i annerch y cynulliad. Llywydd y cyfarfod oedd y Parch. David Evans, Pandy Tudur. Saer maen a phregethwr oedd Dafydd Evans, ac yr oedd yn llawn mor lwyddiannus gyda cherrig ag a oedd gyda phregethu. Gwr syml, gwladaidd ydoedd, ac nid oes amheuaeth ym meddwl neb na lwyddodd i adeiladu iddo ei hun-neu i roddi cerrig yn yr adeilad, o leiaf,—dŷ, nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. Yr hen Ddafydd Evans anwyl! Er mor ddiaddurn ac esgyrniog yr olwg arno ydoedd yr oedd pawb yn ei garu, ac yn credu yn ei onestrwydd a'i ddifrifoldeb. Byddaf fi yn meddwl, weithiau, fod ambell ddyn—dyn da, hefyd—yn rhyw gael mynd i'r nefoedd ar ei ben ei hun. Neb, mewn ffordd ddaiarol o siarad, yn ei ddisgwyl, na neb, hwyrach, heblaw ei Arglwydd, yn ei groesawu yno, ychwaith. Ond am Dafydd Evans ddiniwed a ffyddlon, yr oedd efe wedi dysgu digon o deyrnas nefoedd i lawer enaid oedd wedi croesi'r terfyn o'i flaen, fel y daethant "oll yn eu gynau gwynion" i'w groesawu pan aeth y newydd drwy gyfandir mawr anfarwoldeb a hyfrydwch