Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod Dafydd Evans o Bandy Tudur wedi cyrraedd yno. Yr hen Ddafydd dduwiol! Y mae arnaf hiraeth, a hwnnw yn hiraeth bachgen —a pha hiraeth gonestach?—am dano. Ni ofynnwyd erioed iddo bregethu mewn Sassiwn, ac efallai na ddyrchafwyd mohono i wneyd dim pwysicach mewn Cyfarfod Misol na dechreu odfa; ond yr oedd Dafydd Evans, er symled ydoedd, wedi rhoddi ei gyhoeddiad, nid i flaenor Methodistaidd, mewn dyddiadur deuddeng mlynedd," ond i'r "Rhagflaenor" mawr ei hun y deuai efe i'r nefoedd y funud y gelwid am dano i ganu am "y gwaed a redodd ar y groes." Gwn ei fod wedi marw ers yn agos i ddeugain mlynedd, ac mae'n sicr iddo fyned i'r nefoedd, a dyna sydd yn odidog am yr hen saer maen efengylaidd o Bandy Tudur, dal i fynd i'r nefoedd y mae efe hyd heddyw. Pan mae llawer dyn eithaf da, fe ddichon, yn marw, y mae yn cael nefoedd, mae'n wir; ond pe cynhygid iddo ymweled â dyffrynoedd prydferthach ac â pherllanau cyfoethocach yn y Baradwys fry, efallai y buasai ei enaid yn rhy lesg a gwan i ymlwybro nemawr hyd atynt. Ond am Dafydd Evans, yr oedd efe yn berchen ar fap manwl o'r byd ysbrydol yn ei galon ei hun. Yr oedd ei ffydd a'i obaith wedi tramwyo yr oll o hono ymhell cyn ei farw. Nid wyf yn gwybod fod yr hen frawd yn nemawr o ysgolor, heblaw i deyrnas nefoedd; ni wyddai nemawr am ddaearyddiaeth y byd hwn. Yr oedd holl geography Dafydd Evans yn gyfyngedig i ryw ugain milldir o gylch ei dy ei hun. Ond, cymerwch yn araf: fe wyddai yr hen bregethwr gwladaidd ac uniaith am fyd anweledig, ac yr