Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd am flynyddau lawer wedi teithio peth ryfeddol o'r byd hwnnw. Peidied y darllennydd a meddwl mai yn ein byd bach ni yn unig y mae Bethlehem, Nazareth, a Chalfaría; dysged gofio a meddwl eu bod yn aros heddyw ac am byth yn y byd tragwyddol. Ni buasent wedi bodoli o gwbl yn y byd hwn oni bae am y cysylltiad oedd i fod rhyngddynt a'r byd arall. Ni welodd Dafydd Evans erioed mo'r Bethlehem sydd yng Nghanan, ond y mae wedi rhoddi ei aur, a'i thus, a'i fyrrh wrth breseb ei Waredwr ganwaith cyn heddyw. Mae y saer maen tlawd a diglod o Bandy Tudur a'r Saer Coed bendigedig a nefolo Nazareth wedi cyfarfod a'u gilydd, ac ysgwyd llaw yn serchog cyn heddyw. Nid oes neb yn y byd a ddaw yn fwy cyfarwydd à llethrau Bryn Calfaria na Dafydd Evans y Pandy. Yr hen greadur! Maddeued ei ysbryd i mi am ddweyd hynny. Fe wna, mi wn. Ni cherddodd neb fryniau sir Ddinbych gyda chalon onestach ac efengyl burach na'r hen Ddafydd. Boddlonodd yn dawel i bregethu am swllt, ac i gerdded pymtheg neu ugain milldir yn y dydd; ond mynnai gael myned ar ei liniau i ddiolch i Dduw, nid yn gymaint am y swllt, ond am y nerth a dderbyniai i gerdded y milldiroedd. Nid oes gennyf nemawr cydymdeimlad â'r bobl hynny sydd yn barhaus yn ymosod ar ein gweinidogion a'n pregethwyr. Nid awn ni, na neb arall, fyth yn uwch, fawd na sawdl, wrth daflu dirmyg brwnt arnynt. Y peth lleiaf a fedrwn ei wneyd ydyw eu parchu. Os byddwn yn anghydweled à hwy, mae yn eithaf posibl i ni gredu mai gwyr o ddifrif, mai gwyr gonest, ac yn meddu ar yr